Gamelan I Ysgolion / Try Gamelan For Schools 2019 - 2020

Gamelan I Ysgolion / Try Gamelan For Schools 2019 - 2020

at St David's Hall, Cardiff
Passed

This event has been and gone.

If we know of a trusted online shop with tickets available, we will always provide a link to buy from them

Add to your event list

Please note: Info provided by the Event Organiser

Mae gweithdy blasu ar gamelan Neuadd Dewi Sant yn cyflwyno cerddoriaeth Java i fyfyrwyr. Mae pob offeryn cymhleth sydd yn Neuadd Dewi Sant wedi ei wneud o efydd, gyda cherfiadau pren traddodiadol wedi eu gorffen â llaw. Mae’r set gamelan yn cynnwys offerynnau taro, drymiau a gongiau. Mae’r offerynnau eu hunain yn cyfleu syniad o’r diwylliant ac mae’r synau a’r gerddoriaeth yn hollol fywiocaol – sy’n anrheg addysgiadol.
Mae gamelan yn brofiad hwyliog ac ysgogol sydd â rôl bwysig i’w chwarae ar bob lefel mewn addysg gerddoriaeth. Mae ein sesiynau gamelan yn trafod llawer o gysyniadau yn y cwricwlwm cerddoriaeth ar gyfer cyfnodau allweddol 1, 2 a 3 gan gynnwys cysylltiadau â’r Fframwaith Rhifedd a Llythrennedd. Yn ogystal â chynnig 'cerddoriaeth o ddiwylliannau eraill', gall gamelan hefyd gyfrannu at addysgu cerddoriaeth mewn ffyrdd eraill sy’n cynnig cyfle i ddefnyddio synau newydd ac ymateb i gerddoriaeth yn unigol ac fel dosbarth.
Mae gweithdai gamelan Neuadd Dewi Sant wedi eu canmol gan Viv John, Ysgol Addysg Caerdydd, UWIC: “Roedd hi’n dda gallu chwarae offerynnau go iawn ac mi dderbyniodd y myfyrwyr sylfaen dda yn yr arddull yn ogystal â syniadau defnyddiol yngl?n â sut i’w roi ar waith yn y dosbarth.”
Mae’r myfyrwyr yn cymryd rhan greadigol trwy gydol y sesiwn, sy’n datblygu eu sgiliau gwrando, eu hyblygrwydd a’u sgiliau gwneud cerddoriaeth mewn gr?p. Mae hyn yn ei dro yn gwella sgiliau datrys problemau, cyfathrebu a hunanhyder. Ac mae'r rhain i gyd yn werthfawr o ran datblygiad personol ac academaidd. Mae gamelan yn gyfle i addysgu myfyrwyr mewn amgylchedd dymunol a hamddenol. Does dim angen profiad i gymryd rhan yn y gweithdy unigryw hwn. Bydd cerddor gamelan profiadol yn arwain y gr?p, ac mae'n werthfawr nid yn unig i'r myfyrwyr ond i'r athrawon hefyd.
Mae sesiwn 2 awr arferol yn costio £95.00 am hyd at 20 o ddisgyblion. Fodd bynnag gellir teilwra sesiynau i grwpiau o hyd at 30 o ddisgyblion. Sylwer: gall sesiynau wedi eu teilwra i dros 20 disgybl gostio mwy. Cyfeiriwch at yr wybodaeth am docynnau i gael mwy o fanylion.
Pecynnau sydd ar gael:
£95 - Rhoi Cynnig ar Gamelan - Blwyddyn 4-12 - Mae’r sesiwn hon ar gael am hyd at 20 disgybl a bydd yn para hyd at 2 awr. Bydd disgyblion yn treulio 2 awr gan gael profiad ymarferol wrth ddysgu darn o gerddoriaeth yn y dull lancaran. Byddant yn datblygu eu sgiliau rhythmig, melodaidd, strwythuro a gwrando. Bydd darn llawn yn cael ei chwarae erbyn diwedd y sesiwn.
£120 – Rhoi Cynnig Ychwanegol ar Gamelan – Blwyddyn 4-6 – Mae’r sesiwn hon ar gael am hyd at 30 o ddisgyblion a bydd yn para hyd at 2 awr. Caiff y gamelan ei ddefnyddio ar gyfer rhan o’r sesiwn ond bydd y ffocws hefyd ar ddatblygu sgiliau rhythmig, melodaidd, strwythuro a gwrando i alluogi disgyblion i ddysgu darn yn y dull lancaran. Bydd darn llawn yn cael ei chwarae erbyn diwedd y sesiwn.
£120 – Rhoi Cynnig Ychwanegol ar Gamelan – Blwyddyn 2-3 – Mae’r sesiwn hon ar gael am hyd at 30 disgybl a bydd yn para hyd at 2 awr. Bydd disgyblion yn  archwilio gwneud cerddoriaeth trwy ddefnyddio’r gamelan, gan ganolbwyntio ar ddatblygu eu sgiliau rhythmig, melodaidd, strwythuro a gwrando. Erbyn diwedd y sesiwn bydd disgyblion fel rheol wedi dysgu’r holl elfennau y caiff eu defnyddio mewn darn o gerddoriaeth gamelan yn y dull lancaran megis strwythur, melodi, rhythm a gwrando. Fodd bynnag, ni chaiff darn llawn ei berfformio ar y diwedd fel arfer.
£95 - Archwilio Gamelan - Safon Uwch/Prifysgol - Mae’r sesiwn hon yr un peth â SESIWN FLASU SAFONOL ond gellir ei chymryd ymhellach drwy ddysgu darn o lancaran mwy cymhleth gydag isalaw a/neu wrth edrych ar ddarn yn y dull lancaran (rhaid trafod hyn cyn y gweithdy). Bydd o leiaf 1 darn llawn yn cael ei chwarae erbyn diwedd y sesiwn.
 SYLWER – WRTH GADW LLE, BYDD ANGEN I CHI DDEWIS Y MATH CYWIR O DOCYN.
 
Cwestiynau Cyffredin
Faint o staff all ddod gyda mi?
Rhaid bod o leiaf un athro yn gwmni i ddisgyblion bob amser ond gallwch ddod â chynifer ag y dymunwch a gallwch chi i gyd gymryd rhan hefyd, gan ddibynnu ar y niferoedd!
Sawl disgybl all ddod gyda mi?
Mae lle i 20 disgybl ar weithdy gamelan – mae digon o offerynnau gennym ar gyfer 20 disgybl ar y tro., oni bai eich bod wedi cadw lle yn un o’n gweithdai eraill ni.
A oes amserau penodol i'r gweithdai?
Oes - 10am tan 12pm a 12.30pm tan 2.30pm.
A yw’r gweithdai yn addas ar gyfer grwpiau o ysgol arbennig?
Ydyn – mae llawer o ysgolion arbennig yn dod â grwpiau i’n gweithdai Mae cadeiriau ar gael os yw anabledd yn rhwystro disgybl rhag eistedd ar lawr ac mae modd gwneud lle i gadeiriau olwyn hefyd - rhowch wybod ynghylch eich anghenion wrth gadw lle.
Beth byddwn yn ei chwarae?
Yn ystod y sesiwn bydd grwpiau’n dysgu sut i chwarae darn traddodiadol o Jafa.
Pwy sy’n arwain y gweithdy?
Mae gan Actifyddion Artistig dîm o diwtoriaid gamelan arbenigol y mae ganddynt brofiad o arwain gweithdai ar gyfer pob math o grwpiau ysgol a chymunedol.
A oes unrhyw beth y dylwn i a fy nisgyblion ei wybod ymlaen llaw?
Caiff yr offerynnau eu chwarae ar y llawr, felly byddai trowsus yn fwy cyfforddus. Hefyd gofynnwn i bawb sy’n cymryd rhan neu yn gwylio i dynnu eu hesgidiau.
Alla i dynnu lluniau?
Gallwch - dewch â’ch camera. Hefyd gallwch wneud recordiad sain neu fideo ar ddiwedd y gweithdy i recordio perfformiad olaf y gr?p. Chewch chi ddim recordio’r gweithdy cyfan.
----------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

A taster workshop on the St David’s Hall gamelan introduces students to the music of Java. Each elaborate instrument based in St David’s Hall is made from bronze, with traditional hand finished woodcarvings. The gamelan set consists of tuned percussion, drums and gongs. The instruments alone convey a sense of the culture and the sounds and music are simply exhilarating – an educational treat.
Gamelan is a fun; stimulating experience with an important role to play in music education at all levels. Our gamelan sessions address many of the concepts in the music curriculum for key stage 1, 2 and 3 including links to the numeracy and literature framework. Gamelan not only delivers ‘music of other cultures’ effectively, but can also contribute to music teaching in other ways giving the opportunity to use new sounds and respond to music individually and as a class.
St David’s Hall Schools Gamelan workshops have been praised by Viv John, Cardiff School of Education, UWIC. “It was great to be able to play authentic instruments and the students were given a good grounding in the style as well as useful ideas on how to implement it in a classroom”.
The students are actively and creatively involved throughout the session which develops their listening skills, flexibility and group music making. This in turn enhances problem solving, communication, and self-confidence. All of which are valuable in personal and academic development. Gamelan provides a chance to educate students in an enjoyable and relaxed environment. No experience is needed to take part in this unique workshop. The group will be lead by an experienced Gamelan musician and is valuable not only for the students but teachers too.
A standard two-hour session costs £95.00 for up to 20 pupils. However, tailored sessions can be offered for groups of up to 30 pupils. Please note, tailored sessions for over 20 pupils may cost more. Please see ticketing for more information
Packages Offered:
 
£95 - Try Gamelan - Year 4 – 12 – This session is available for up to 20 pupils and will last up to 2 hours. Pupils will spend 2 hours with the hands-on experience of learning a lancaran style piece of music. They will develop their rhythmic, melodic, structure and listening skills. A full piece will be playable by the end of the session.
£120 -  Try Gamelan Boosted - Year 4 – 6 – This session can be offered for up to 30 pupils and will last up to 2 hours. The gamelan will be used for part of the session but will also focus on developing rhythmic, melodic, structure and listening skills to enable to pupils to learn a lancaran style piece. A full piece is usually playable by the end of the session.
£120  - Try Gamelan Boosted - Year 2 & 3 – This Session can be offered for up to 30 pupils and will last up to 2 hours. Pupils will explore music making with the use of the gamelan focusing on developing their rhythmic, melodic, structure and listening skills. By the end of a session pupils will usually have learnt all elements used in a Lancaran style piece of gamelan music such as the structure, melody, rhythm and listening however a full piece is not usually performed at the end.
£95 - Exploring Gamelan - A-Level/University – This is the same as a STANDARD TASTER but can be taken further by learning a more complicated Lancaran with a counter melody and/or looking at a Ladrang style of piece (this is to be discussed in advance of your workshop). At least 1 full piece will be playable by the end of the session.
 PLEASE NOTE - WHEN BOOKING YOU WILL NEED TO CHOOSE THE CORRECT TICKET TYPE
 
FAQs
How many staff can I bring?
At least one teacher must accompany students at all times but you can bring along as many as you like and numbers allowing you can all join in too!
·      How many pupils can I bring?
A gamelan workshop can cater for up to 20 students – we have enough instruments for 20 pupils at one time unless you have booked on of our alternative workshops.
·      Are there set times for the workshops?
Yes -  10.00 am to 12.00 pm and 12.30 pm to 2.30 pm.
·      Are the workshops suitable for groups from a special school?
Yes many special schools bring groups to our workshops. Chairs can be made available where disability prevents sitting on the floor and wheelchairs can also be accommodated please just let us know your needs when you make your booking.
·      What will we play?
During the session groups learn to play a traditional Javanese piece.
·      Who leads the workshop?
Arts Active has a team of specialist gamelan tutors who have expertise and experience in leading workshops for all types of school and community groups.
·      Is there anything my pupils and I should know in advance?
The instruments are played on the floor so trousers are more comfortable. Also we ask all participants and onlookers to remove their shoes.
·      Can I take photos?
Yes please do bring your camera. Also you may make an audio or video recording at the end of the workshop to document the group’s final performance. You will not be permitted to record the whole workshop.

Rated Excellent

St David's Hall

The Hayes
Cardiff
CF10 1AH

Disabled Booking:
029 2087 8444

See all events at St David's Hall

St David's Hall

The Hayes
Cardiff
CF10 1AH

Disabled Booking:
029 2087 8444

See all events at St David's Hall